Editors

Saturday 20 February 2021

Polisïau Craidd CULS Cymru

 

Mae toriadau sy’n deillio o lywodraethau Tori yn San Steffan wedi bwrw i lawr ar Gymru ers pell dros ddegawd. Yn ystod y cyfnod hwn mae llywodraethau Llafur Cymru wedi methu amddiffyn gweithwyr yng Nghymru rhag y toriadau hyn - ddweud y gwir maen nhw wedi cyflawni’r rhan fwyaf ohonynt. Mae’r toriadau hyn wedi dod i’r amlwg mewn ffordd greulon yn ystod yr argyfwng gyda’r cwtogiadau i nifer y gwelyau ysbyty GIG. Ers 2008 mae nifer y gwelyau wedi cael ei gwtogi gan 21% gyda’r canlyniad bod gan Gymru’r rhif isaf o welyau gofal dwys y person mewn Gorllewin Ewrop pan ddechreuodd yr argyfwng Covid -is hyd yn oed na GIG Lloegr dan y Torïaid.

Mae Covid wedi dangos sefyllfa ofnadwy ein gwasanaethau cyhoeddus – gyda diffyg ariannu’r GIG a’r Cynghorau – ond hefyd rhai o’r sawl peth gall Llywodraeth Cymru gwneud sy’n gallu gwella ein bywydau.

Er enghraifft, pam na allent  ymestyn y cynllun sydd wedi rhoi lloches i bobl ddigartref yn ystod y cyfnod cyntaf dan gyfyngiadau a gwahardd dadfeddiannu a gwneud y cynllun yn barhaol? Ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £2bn ar gymorthdaliadau i fusnes yn ystod yr argyfwng Covid. Ond ddylai fod wedi sicrhau bod unrhyw cymorth gan y Llywodraeth i fusnesau unigol yn ddibynnol ar gadw swyddi a dilyn arferion cyflogaeth teg. Fel sicrhau nad yw gweithwyr yn cael eu gorfodi i weithio dan amodau Covid peryglus a dim yn gadael i gyflogwyr defnyddio diswyddo ac ail gyflogi i dorri cyflogau.

 

Esgus Llywodraeth Llafur Cymru am dorri gwasanaethau yn y gorffennol yw bod werth ei gyllideb wedi cael ei dorri gan Lywodraeth Tori'r DU. Ond ble oedd y frwydr yn erbyn y toriadau hyn? Mae sawl offeryn gal Llywodraeth Cymru defnyddio i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus Cymru rhag toriadau Ceidwadol - ceffyl da yw ewyllys!

Mae’n drist ond canlyniad yr argyfwng Covid bydd mwy o gynildeb Torïaidd yn do di Gymru. Byddent yn disgwyl i’r dosbarth gweithiol dalu am effeithiau economaidd yr argyfwng, yn union fel mae cymunedau dosbarth gweithiol wedi dioddef y gwaethaf o effeithiau’r feirws ei hun. Disgwylir bydd gwario ar y GIG yn 8% llai na lefel 2010-11 cyn dechrau’r toriadau. Mae mwy o angen nag erioed i gael Llywodraeth yng Nghymru sy’n cadw cefn pobl dosbarth gweithiol yng Nghymru rhag mwy o doriadau.

Yn hytrach na gweithredu’r toriadau yn oddefol gall gwrthod gweithredu cwtogiadau Ceidwadol a dechrau ymgyrch i orfodi Llywodraeth San Steffan i ddychwelyd yr arian mae wedi gwrthod rhoi ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Yn ystod y 1980s gwrthododd Cyngor Dinas Lerpwl, oedd dan arweiniad sosialaidd, i dorri gwasanaethau ac yn lle hynny llwyddodd i orfodi Llywodraeth Thatcher i roi mwy o arian ar gyfer tai Cyngor, addysg a gwasanaethau eraill. Os gall un ddinas gorfodi’r ‘Iron Lady’ i dynnu’n ôl ym 1984 meddyliwch beth gall cenedl gyfan cyflawni yn erbyn Llywodraeth Tori wan a rhanedig.

Y tro nesaf mae’n derbyn cyllideb gan San Steffan sy’n mynnu toriadau ychwanegol, gall cydrannu ei  arian gydag awdurdodau lleol Cymru. Gall gwrthod gwneud mwy o doriadau ac yn lle hynny gwario beth mae pobl yn angen ar y GIG, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a thai.

Gall defnyddio hynny i gael seibiant i fynd a’i ymgyrch i bob un o’n cymunedau sydd ag angen difrifol am y gwasanaethau hyn a’u cynnwys nhw mewn ymgyrch cenedlaethol i frwydro ar gyfer beth sydd angen. Dyle’r ymgyrch apelio at y cannoedd o filoedd o aelodau undebau llafur, a thraddodiadau gorau mudiad gweithwyr Cymru gydag ymgyrch llawn ynni o ralïau, gwrthdystiadau a streiciau i wrthsefyll cynildeb y Torïaid.

Mae’r sawl tro pedol gan Johnson a’i ganghellor, yn gwario biliynau pan maen nhw dan bwysau. Mae'n dangos os yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r grymoedd sydd ganddi i wrthod gweithredu toriadau pellach ac yn hytrach  i wario beth sydd angen, gall orfodi’r Torïaid i dalu ac i ddychwelyd yr arian maen nhw wedi dwyn oddi wrth Gymru a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan y Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr (CULS) rhaglen o bolisïau ar gyfer etholiadau Senedd Cymru (gweler isod) a all gwneud gwahaniaeth sylweddol. Gall hyd yn oed ond un AS yn sefyll yn gadarn rhoi hyder i undebwyr llafur ac ymgyrchwyr yn y gymuned i frwydro, os ydyn nhw’n defnyddio Siambr y Senedd i apelio at y rhai tu allan.

Gall Aelodau Sosialaidd o’r Senedd ymuno â’r bobl yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd, o blaid y mudiad Black Lives Matter, a’r ymgyrchoedd yn erbyn ymosodiadau ar  hawliau a gwasanaethau menywod. Byddent yng nghanol unrhyw frwydr sy’n gam yn nes at gymdeithas ble gall pobl mwynhau bywyd i’r eithaf heb ofni diweithdra, bod yn ddigartref, tlodi ac anffafriaeth.

Mae’n rhaid i bob darpar ymgeisydd Seneddol o leiaf cytuno gyda’r rhaglen isod i sefyll dan enw CULS yn etholiad 2021 - ond nid yw’n cyfyngu ar y pynciau gall ymgeiswyr codi.

Gall pob undebwr llafur, ymgyrchydd yn erbyn y toriadau, ymgyrchydd yn y gymuned a phawb sydd eisiau gweld dewis arall yn hytrach na gwleidyddion cynildeb bod yn ymgeisydd CULS.

Ond dyle pleidleiswyr gwybod bydd unrhyw Aelod o’r Senedd sy’n  cael ei ethol dan faner CULS yn brwydro dros:

 

·        - Gwrthwynebu’r holl doriadau i wasanaethau cyhoeddus, swyddi, cyflogau ac amodau. Rydym yn gwrthod yr honiad bod ‘rhai toriadau’ i’n gwasanaethau yn angenrheidiol neu fod yr argyfwng Covid yn esgus dros gynildeb.

·        - Cefnogi pob brwydr gweithwyr yn erbyn polisïau’r Llywodraeth yn gorfodi pobl gyffredin i dalu am yr argyfwng.

·        - Ymgyrch dosbarth gweithiol unedig yn erbyn hiliaeth a phob math o ormes.

·        - Gwrthdroi’r toriadau i’r GIG.

·       -  Ail-wladoli trafnidiaeth gyhoeddus, yn cynnwys y rheilffyrdd yn barhaol. O blaid trefn trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei integreiddio.

·        - Prydau ysgol yn rhad ac am ddim ar gyfer pob plenty ysgol yng Nghymru.

·        - Dros addysg yn rhad ac am ddim - dileu ffioedd addysg.

·       -  Gwrthwynebu cynyddu lefelau treth yr incwm, Treth Cyngor, rhent a thaliadau am wasanaeth ar gyfer pobl dosbarth gweithiol i lenwi’r bwlch achoswyd gan gwtogiadau ariannol. Mynnu bod Llywodraeth San Steffan yn gwrthdroi’r toriadau mewn cyllid mae wedi gosod.

·       -  Defnyddio pwerau Llywodraeth Cymru i ddechrau rhaglen fawr o adeiladu tai Cyngor fforddiadwy ‘gwyrdd’ i daclo’r argyfwng tai. Dros reolaeth ar rent ac atal troi pobl allan o’u cartrefi.

·      -  Pleidleisio yn erbyn rhoi contractau tu allan i’r gwasanaethau cyhoeddus ac yn erbyn preifateiddio swyddi a gwasanaethau sector cyhoeddus. Yn erbyn trosglwyddo gwasanaethau Cyngor i ‘fentrau cymdeithasol’ neu gwmni rheolaeth ‘hyd fraich’ sy’n gamau cyntaf i breifateiddio. Dod â phob gwasanaeth yn ôl dan reolaeth gyhoeddus.

·      -  Brwydro dros yr hawl i bobl Cymru penderfynu dyfodol Cymru drostynt eu hunain.

No comments:

Post a Comment